
Llun diolch i Prifysgol Bangor / Photograph courtesy of Bangor University
Sefydlwyd y Côr ym 1978 gan John Hywel, y cyfansoddwr a’r arweinydd, i ddathlu canmlwyddiant Blodwen, Joseph Parry, yr opera gyntaf yn y Gymraeg. Côr pedwar llais SATB gydag oddeutu 70 o aelodau yw Cantorion Menai sy’n cyfarfod ar Ynys Môn. Bydd yn perfformio ddwywaith y flwyddyn, gyda cherddorfa a chantorion proffesiynol, ac yn aml yn cyflwyno gweithiau gan gyfansoddwyr o Gymru.
​
Ar 8 Mehefin 2025 bydd Cantorion Menai, y Liverpool Welsh Choral Union a Chôr y Gadeirlan yn ymuno i berfformio The Dream of Gerontius gan Edward Elgar. Yr unawdwyr fydd Gwyn Hughes Jones, David Kempster a Leah Marian Jones.
Byddwn yn ymarfer ar nos Fawrth rhwng 7 a 9 p.m. yng Nghapel Tabernacl ym Mhorthaethwy, Bydd croeso bob amser i aelodau newydd.
Cantorion Menai was founded in 1978 by the composer and conductor John Hywel, for the purpose of giving a centenary performance of Wales' first opera, Blodwen, by Joseph Parry. Cantorion Menai is an SATB choir of around 70 voices based in Anglesey. The choir performs twice a year, with orchestra and professional soloists, often particularly featuring works by Welsh composers.
On 8 June 2025 Cantorion Menai joins with the Liverpool Welsh Choral Union and the Choir of Bangor Cathedral for a performance of The Dream of Gerontius by Edward Elgar. This performance will be given at the Pritchard Jones Hall, Bangor and the soloists will be Gwyn Hughes Jones, David Kempster and Leah Marian Jones.
We rehearse on Tuesday evenings from 7-9pm in the Tabernacl Welsh Independent Chapel in Menai Bridge, and new members are always welcome. REGISTER YOUR INTEREST​​